Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
30 Rhagfyr 2020
Amser y
cyfarfod: 10.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
(5 munud)
NDM7531 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i) a 12.22(i) er mwyn caniatáu i NDM7530 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 30 Rhagfyr 2020.
1 Dadl: Diwedd Cyfnod Pontio'r UE
(90 munud)
NDM7530 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cytundeb mewn egwyddor y daeth Llywodraeth y DU a'r UE iddo ar ein perthynas hirdymor yn y dyfodol ar ddiwedd y cyfnod pontio.
2. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i weithredu'r cytundeb drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas â'r Dyfodol).
3. Yn edifar nad yw mewn sefyllfa i ystyried cydsyniad deddfwriaethol, gan mai ar fyr rybudd y cafodd y Bil ei ddarparu i'r Senedd a'i fod yn cynnwys darpariaethau a all effeithio ar y setliad datganoli.
4. Yn edifar nad yw'r cytundeb niweidiol hwn yn adlewyrchu dyheadau'r Senedd fel y'u hadlewyrchir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' a hefyd yn 'Y Berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol: Blaenoriaethau i Gymru' ond serch hynny, yn derbyn bod y cytundeb hwn yn llai niweidiol na gadael y cyfnod pontio heb gytundeb masnach.
5. Yn cefnogi’r ymdrechion parhaus i wneud popeth i darfu cyn lleied â phosibl yn y byrdymor ac i leihau'r niwed hirdymor a fydd yn deillio o'r newid yn ein cydberthynas economaidd â'r UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i'r perwyl hwnnw.
Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru
Dogfennau Ategol
Bil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas â’r Dyfodol) (Saesneg yn unig)
Detholwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu'r cytundeb masnach a chydweithrediad rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn credu ei bod er budd Cymru i roi cefnogaeth i'r cytundeb a rhoi cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer ei weithredu drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol).
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i fanteisio ar gyfleoedd newydd i Gymru sy'n deillio o ddiwedd y cyfnod pontio ar ôl Brexit.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu nad yw'r cytundeb yn adlewyrchu ewyllys pobl Cymru yn llawn, fel y mynegwyd yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016, ond yn nodi ei fod yn symud y Deyrnas Unedig o fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd, sydd wedi cael effaith niweidiol ar ein heconomi a sofraniaeth, ac yn rhoi terfyn ar wleidyddiaeth ymrannol a fynegir gan ymgyrchwyr aros wrth wadu'r broses ddemocrataidd.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)
Ym mhwynt 4, dileu ‘ond serch hynny, yn derbyn bod y cytundeb hwn yn llai niweidiol na gadael y cyfnod pontio heb gytundeb masnach' a rhoi yn ei le 'ac yn credu ei fod yn cynrychioli Brexit caled nad oes mandad ar ei gyfer ac nad yw o fudd i Gymru'.
Gwelliant 4 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn peidio cefnogi bargen Llywodraeth Geidwadol y DU ac yn galw ar gynrychiolwyr Cymru yn Senedd y DU i bleidleisio yn unol â hynny.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddetholwyd y gwelliannau eraill a osodwyd.
2 Cyfnod pleidleisio
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Coronafeirws
(45 munud)
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2021